Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 4 Mehefin 2014 i'w hateb ar 11 Mehefin 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

 

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

1. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i helpu'r carcharorion hynny yng Nghymru sydd â phroblemau iechyd meddwl? OAQ(4)0441(HSS)

 

2. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau cardioleg yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda? OAQ(4)0442(HSS)

 

3. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglŷn â'r manteision ehangach i Gymru o ran ymchwil a datblygu ym maes gofal iechyd? OAQ(4)0443(HSS)

 

4. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau gordewdra yng Nghymru? OAQ(4)0439(HSS)

 

5. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa gynnydd a wnaed mewn cyd-gyllido cynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol yn ardal bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0455(HSS)W

 

6. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur canlyniadau yn dilyn argymhellion yr adolygiad Ymddiried mewn Gofal? OAQ(4)0449(HSS)

 

7. Andrew RT Davies: (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu Cynlluniau Gofal Unigol ar gyfer cleifion canser yng Nghymru? OAQ(4)0447(HSS)

 

8. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio meddygon teulu yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0456(HSS)

 

9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ofal sylfaenol yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda? OAQ(4)0452(HSS)W

 

10. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau strôc yng Nghymru? OAQ(4)0450(HSS)

 

11. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am statws cyfreithiol Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru? OAQ(4)0457(HSS)

 

12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer atgyfeirio cleifion o ddeintyddion i ysbytai? OAQ(4)0451(HSS)

 

13. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb iechyd meddwl ar gyfer plant a'r glasoed? OAQ(4)0453(HSS)W

 

14. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau fferyllol yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0440(HSS)

 

15. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i gryfhau cysylltiadau hyfforddi rhwng ysbytai yng Ngogledd Cymru a'r rhai yn ymddiriedolaethau'r GIG Lerpwl a Manceinion? OAQ(4)0446(HSS)

 

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

 

1. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ei flaenoriaethau ar gyfer darpariaeth Cymunedau yn Gyntaf yn Llanelli? OAQ(4)0191(CTP)W

 

2. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar allu Llywodraeth Cymru i drechu tlodi yng Nghymru? OAQ(4)0183(CTP)

 

3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i drechu tlodi mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0179(CTP)

 

4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraniad Biosffer Dyfi i ddatblygu cynaliadwy? OAQ(4)0188(CTP)W

 

5. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amcan ar gyfer gwerthuso'r gwariant diweddar o £679,000 ar hysbysebu undebau credyd? OAQ(4)0175(CTP)R

 

6. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Cyn penodi'r Comisiynydd newydd, a oes unrhyw gynlluniau i adolygu strwythurau atebolrwydd Comisiynydd Plant Cymru? OAQ(4)0177(CTP)W

 

7. Lynne Neagle: (Torfaen):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith diwygio lles yn Nhorfaen? OAQ(4)0187(CTP)

 

8. Andrew RT Davies: (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i fesur cynnydd o ran lleihau tlodi plant yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0182(CTP)

 

9. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Cymunedau yn Gyntaf yn Abertawe? OAQ(4)0184(CTP)

 

10. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd ): Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi ei wneud gyda'i gyfrifoldeb trawsbynciol am ddatblygu cynaliadwy ers ei benodi?  OAQ(4)0185(CTP)W

 

11. Elin Jones (Ceredigion):Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i Ganolfannau Cyngor ar Bopeth mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0178(CTP)W

 

12. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod cydraddoldeb anabledd yn cael ei ymgorffori wrth gyflwyno deddfwriaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0181(CTP)

 

13. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ei gamau i gefnogi’r sector gwirfoddol er mwyn hybu cymunedau cydweithredol? OAQ(4)0190(CTP)W

 

14. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei gynlluniau i drechu tlodi yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0180(CTP)

 

15. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwirfoddolwyr yn Ynys Môn?OAQ(4)0176(CTP)W

 

Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol

 

1. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda Chomisiwn y Gyfraith ynglŷn â Bil Cymru? OAQ(4)0065(CG)

 

2. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sylwadau y mae wedi eu gwneud ar faterion sy'n effeithio ar Gymru? OAQ(4)0064(CG)

 

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cynnal gyda Chomisiwn y Gyfraith? OAQ(4)0063(CG)W

 

4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei ddyletswyddau o ran cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn achosion cyfreithiol? OAQ(4)0062(CG)W